Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-11-14

CLA388 - Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2014

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (sy'n trosi'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig (Cyfarwyddeb 2008/98/EC)) mewn perthynas â chofrestru cludwyr, broceriaid a gwerthwyr gwastraff a'r ddogfennaeth i'w chwblhau pan gaiff gwastraff ei drosglwyddo.

Nod y rheoliadau yw rhoi mwy o hyblygrwydd i fusnesau o ran y ddogfennaeth a ddefnyddir i ddisgrifio'r gwastraff sy'n cael ei drosglwyddo. Maent hefyd yn diwygio'r rhestr o droseddau perthnasol y mae rheoleiddwyr yn eu hystyried wrth drafod cais i  gofrestru cludwr. 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau hyn ar sail gyfansawdd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ar sail y ffaith yr ystyrir bod dull gweithredu cyson yng Nghymru a Lloegr yn fuddiol i fusnesau yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu ar sail draws-ffiniol. 

Gweithdrefn: Negyddol

1.        Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

1.       Gan mai Gorchymyn Cyfansawdd yw hwn, dim ond yn Saesneg y mae wedi'i wneud.

 

[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.]

 

2.        Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mawrth 2014